Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Strategaeth Cyllid Natur Cymru ddrafft i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r strategaeth ddrafft hon yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru am fynd ati i gynyddu'r buddsoddiad mewn adnoddau naturiol i greu Cymru ffyniannus, wydn ac iachach. Mae'n adlewyrchu gwaith ymgysylltu helaeth a wnaed â rhanddeiliaid allweddol yn ystod 2026.