Iaith:

Manylion cynnydd mathemateg a rhifedd

 

Trosolwg

Rydym yn gofyn am farn ar ganllawiau arfaethedig ar gynnydd mathemateg a rhifedd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.

Mae’r canllawiau’n rhan o’r gwaith sy’n deillio o’r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a gyhoeddwyd ar 15 Medi, ac fe’i datblygwyd i roi mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei ddysgu a phryd. Y bwriad yw ategu’r canllawiau presennol ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

Rydym am glywed eich barn ar y canlynol:

  • strwythur a chynnwys y canllawiau arfaethedig
  • eglurder a chydlyniaeth cynnydd mathemateg a rhifedd
  • a yw lefel y manylder a ddarperir yn briodol
  • sut gall y canllawiau gefnogi’r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm, cynllunio cynnydd, dysgu ac addysgu
  • ystyriaethau gweithredu, gan gynnwys dysgu proffesiynol, adnoddau a gofynion cymorth
  • effeithiau posibl y cynigion
  • unrhyw fater arall sy’n berthnasol i gynnwys y canllawiau yn eich barn chi

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio’r canllawiau terfynol a’r trefniadau gweithredu ategol.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.

Rwy'n deall y bydd unrhyw destun a roddaf yn y ffurflen hon yn cael ei gofnodi ac ar gael i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os nad wyf yn clicio ar y botwm "cyflwyno" ar y dudalen olaf.

Rwy'n deall hefyd mai dim ond ffurflenni a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy glicio ar y botwm "cyflwyno" fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.

Bydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu unrhyw destun sydd wedi'i gofnodi ar ffurflenni lle nad yw'r defnyddiwr wedi clicio ar y botwm "cyflwyno".

 

Cwestiwn 1

I ba raddau mae’r canllawiau cynnydd arfaethedig yn gwella eich dealltwriaeth o sut i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn mathemateg a rhifedd, gan gynnwys cefnogi datblygiad tuag at gam cynnydd 1?

 

Cwestiwn 2

I ba raddau ydych chi’n meddwl bod y canllawiau cynnydd arfaethedig yn berthnasol ac yn briodol ar gyfer deall cynnydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol? 

 

Cwestiwn 3

Pa mor ddefnyddiol yw’r canllawiau cynnydd arfaethedig o ran cefnogi’r gwaith o gynllunio, addysgu a dysgu’r cwricwlwm?

 

Cwestiwn 4

Wrth daro cydbwysedd rhwng eglurder, ymreolaeth broffesiynol a llwyth gwaith, sut byddech chi’n disgrifio lefel y manylder a ddarperir yn y tablau camau cynnydd?

 

Cwestiwn 5

Ydych chi’n cytuno â’n dull o drefnu’r wybodaeth yn ôl camau cynnydd gyda grwpiau blwyddyn dangosol nodweddiadol?

Rydym yn croesawu awgrymiadau am ddulliau eraill os oes gennych farn ar hyn.

 

Cwestiwn 6

A yw’r manylion ychwanegol yn addas i gefnogi ymarferwyr sy’n addysgu pynciau eraill i ddeall beth sydd angen i blant ei ddysgu o ran rhifedd a phryd i wreiddio hyn ar draws y cwricwlwm?

 

Cwestiwn 7

Pa mor glir a defnyddiol yw cyflwyniad y canllawiau?

 

Cwestiwn 8

Pa mor glir a defnyddiol yw’r cyflwyniad i bob cam cynnydd?

 

Cwestiwn 9

Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys y tablau cynnydd o dan y pennawd: ‘Dylai profiadau dysgu gynnwys’?

Rhowch sylwadau ar:

  • a yw’r cynnwys yn darparu cymorth defnyddiol i ymarferwyr
  • ai at ddibenion cynllunio, diagnosis neu ddiben arall y mae’n cael ei ddefnyddio orau
  • a oes perygl y gallai gael ei ddehongli’n anfwriadol fel rhestr wirio neu fel lefelau
 

Cwestiwn 10

Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys y tablau cynnydd o dan y pennawd: ‘Mae’r dysgwyr yn hyderus ac yn ddibynadwy o ran...’?

Rhowch sylwadau ar:

  • a yw’r cynnwys yn darparu cymorth defnyddiol i ymarferwyr
  • ai at ddibenion cynllunio, diagnosis neu ddiben arall y mae’n cael ei ddefnyddio orau
  • a oes perygl y gallai gael ei ddehongli’n anfwriadol fel rhestr wirio neu fel lefelau
 

Cwestiwn 11 

Pa ddysgu proffesiynol, enghreifftiau, adnoddau, cymorth asesu neu ganllawiau a fyddai’n helpu i weithredu’n effeithiol y canllawiau manwl arfaethedig ar gynnydd mathemateg a rhifedd?

 

Cwestiwn 12

Yn eich barn chi, pa effaith fyddai’r newidiadau arfaethedig yn ei chael ar eich llwyth gwaith, yn ystod y cyfnod gweithredu ac yn barhaus?

Esboniwch unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ac unrhyw gamau a allai helpu i osgoi neu leihau llwyth gwaith ychwanegol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y canlynol:

  • yr effaith arnoch chi nawr a thros y 12 mis nesaf
  • yr effaith debygol ar ôl 12 mis
  • beth y gellid ei wneud i liniaru’r effaith