Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i system gynigion ac apeliadau’r Dreth Gyngor
C1. A ydych yn cytuno y dylai talwyr y Dreth Gyngor gael data am eu heiddo a thystiolaeth ategol ynglŷn â phrisiadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach yn y broses gynnig nag y maent ar hyn o bryd?
C2. A ydych yn cytuno y bydd rhoi cyfle i dalwyr y Dreth Gyngor gael data am eu heiddo a thystiolaeth ategol ynglŷn â phrisiadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gynharach yn y broses gynnig yn helpu i lywio dewis trethdalwr wrth benderfynu a ddylai gyflwyno ei achos i apêl?
C3. A ydych yn cytuno mai dim ond os bydd talwyr y Dreth Gyngor yn dymuno gwneud hynny y dylai fod modd iddynt ddewis cyflwyno eu hachos i dribiwnlys apêl?
C4. Beth yw eich barn ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r broses gynnig ac apelio ar gyfer y Dreth Gyngor?
Y Gymraeg
Mae ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ yn un o’r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg ac mae’n gweithio tuag at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gofynnir am sylwadau am yr effeithiau (boed hynny’n gadarnhaol neu’n niweidiol) y gallai’r cynigion ar gyfer diwygio’r broses gynnig ac apelio ar gyfer y Dreth Gyngor eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg a pheidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
C5. Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau posibl y gallai diwygio apeliadau yn erbyn y Dreth Gyngor eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg;
- peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
C6. Esboniwch hefyd sut y credwch y gellid datblygu’r cynigion i ddiwygio apeliadau yn erbyn y Dreth Gyngor er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; ac
- atal unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
C7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion perthnasol nad ydynt wedi cael sylw penodol gennym, nodwch nhw yn y gofod a ganlyn: