Llenwi a chyflwyno ffurflenni cais
Er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu yn unol â blaenoriaethau rhanbarthol, disgwylir ichi drafod eich cynnig â'ch cynghorydd rhanbarthol cyn ei gyflwyno. Bydd hyn yn golygu cael cefnogaeth eich cynghorydd rhanbarthol ar gyfer y cais. Rhowch ddigon o amser i gael y trafodaethau hyn, cyn cyflwyno eich cais.
Bydd angen ichi roi tystiolaeth (copi o'r e-bost gan eich cynghorydd rhanbarthol yn cadarnhau'r gefnogaeth, ar ran y bwrdd rhanbarthol) yn dangos bod y prosiect hwn yn cael ei gefnogi ac y gellir ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Darllenwch y canllawiau perthnasol ym maes Trais a Cham-drin a'r Cwestiynau Cyffredin cyn llenwi'r ffurflen hon, gan gyfeirio atynt hefyd yn ystod y broses.
Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy'n cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol, yn darparu cymorth a chyngor ar wneud cais am gyllid. Mae manylion ynghylch eich Cyngor Gwirfoddol Sirol agosaf ar wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Llenwch y ffurflen a'i chyflwyno erbyn 6 Tachwedd 2026, 11:59pm.
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd i wybod beth fyddwn ni'n ei wneud â'ch gwybodaeth bersonol.
Peidiwch â defnyddio botymau 'yn ôl' nac 'ymlaen' eich porwr. Defnyddiwch y botymau ar waelod pob tudalen i gwblhau eich ymateb. Mae hyn yn sicrhau bod eich atebion yn cael eu cadw.