Hysbysiad i Weinidogion Cymru: Peidio â Chynnwys Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol neu Ddiffyg Proses Weithredu

0%
 
Mae'r ffurflen hon ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru sy'n gorfod cydymffurfio ag Adran 29 (Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol: hysbysu Gweinidogion Cymru) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”).

 

O dan y Ddeddf, rhaid i awdurdodau contractio naill ai gynnwys y cymalau enghreifftiol perthnasol mewn contractau adeiladu mawr (h.y. contract gweithiau sydd â gwerth amcangyfriedig o fwy na £2 miliwn), neu hysbysu Gweinidogion Cymru pan na ellir eu cynnwys na'u gweithredu. 

 

Pryd y dylech gyflwyno'r hysbysiad hwn

 

Rhaid i chi lenwi'r ffurflen hon os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i gontract adeiladu mawr:

  • Nid ydych yn bwriadu cynnwys un neu fwy o'r cymalau enghreifftiol;
  • Rydych wedi dyfarnu neu ymrwymo i gontract heb gynnwys un neu fwy o'r cymalau enghreifftiol;
  • Nid oes gennych broses ar waith i sicrhau bod y rhwymedigaethau o fewn y cymalau yn cael eu gweithredu, gan gynnwys (lle bo'n berthnasol) mewn cadwyni cyflenwi neu drefniadau is-gontractio.

Mae rhagor o fanylion am y cymalau enghreifftiol a'r gofynion hysbysu ar gael yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a'r Canllawiau Statudol Caffael Gymdeithasol Gyfrifol: Hysbysiadau.

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r hysbysiad llawn ar gael yma: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/inline-documents/2026-03/hysbysiad-preifatrwydd-y-broses-hysbysu.pdf

1. Ai'r rheswm dros eich cyflwyniad yw cydymffurfio â'r gofynion hysbysu o dan Adran 29 (Cymalau Gweithiau Cyhoeddus Cymdeithasol) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023? *