Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer canser. Nod y strategaeth yw gwella canlyniadau canser yng Nghymru.
Wrth sôn am ganlyniadau canser, yr hyn a olygir yw pa mor hir y bydd pobl yn goroesi ar ôl diagnosis o ganser, a nifer y bobl sy’n marw o ganser bob blwyddyn.
Rydym am glywed barn pobl a sefydliadau yng Nghymru am yr hyn y dylid ei gynnwys yn y strategaeth.
Byddwn yn defnyddio’r ymatebion i lywio’r hyn y mae’r strategaeth ei angen.
Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ochr yn ochr â’r strategaeth derfynol.
Mae 10 cwestiwn am y strategaeth ganser genedlaethol a 2 gwestiwn amdanoch chi.
Atebwch y cwestiynau sydd o’r diddordeb mwyaf i chi.
Nid oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn.
Rhowch dystiolaeth, enghreifftiau ac argymhellion lle bo’n bosibl. Gall ymatebion dynnu ar brofiad personol, arbenigedd proffesiynol, tystiolaeth ymchwil neu safbwyntiau sefydliadol. Os gallwch, cyfeiriwch at dystiolaeth sy’n cefnogi eich barn neu darparwch hyperddolen sy’n cefnogi eich safbwynt. Os nad oes gennych dystiolaeth, bydd eich barn yn dal i gael ei hystyried.