Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wrthi'n arolygu Gwasanaethau Mabwysiadu / Cydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol eich Awdurdod Lleol. Byddem yn croesawu eich barn am ba mor dda mae pobl yn cael eu cefnogi.
Ar ddiwedd yr arolwg mae cwestiynau a fydd yn ein helpu i ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau yn hyrwyddo ac yn sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'r cwestiynau hyn yn ddewisol.
Mae eich sylwadau yn gyfrinachol, ond mae'n bosibl y cânt eu defnyddio i roi adborth a dyfyniadau i'r Gydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol a'r awdurdodau lleol cysylltiedig. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gwblhau'r arolwg hwn. Os byddai'n well gennych siarad â ni am eich adborth, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126 neu CIWLocalAuthority@gov.wales
Caiff gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag unrhyw faterion diogelu ei rhannu â'r awdurdod lleol.