Hawl y Gymuned i Brynu: Arolwg Rhanddeiliaid

0%

1. Hawl y Gymuned i Brynu – Gwaith Ymgysylltu Arolwg gyda Rhanddeiliaid

Mae tîm Asedau Cymunedol: Bil Hawl y Gymuned i Brynu yn Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith ymgysylltu cynnar ar Fil Hawl y Gymuned i Brynu a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Nod y gwaith hwn yw helpu i lywio datblygu'r Bil, cyn iddo fod yn destun ymgynghoriad ffurfiol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd y tîm Asedau Cymunedol: Bil Hawl y Gymuned i Brynu yn casglu gwybodaeth drwy arolwg gyda chynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data yr ymchwil. Mae tîm Asedau Cymunedol: Bil Hawl y Gymuned i Brynu yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r adroddiad, ac ni fyddan nhw'n rhoi data y gellir eu defnyddio i adnabod unigolyn i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai y byddwch yn gofyn inni wneud hynny.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad terfynol ar yr ymgynghoriad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau’n bwysig inni er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

 

Y cyswllt ar gyfer yr ymarfer ymgysylltu hwn yw Claire Rush.

Cyfeiriad e-bost:  Claire.Rush@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000254208