Archwiliad Gwelliant - Arolwg staff - 2026/27

CIW logo


0%
 
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wrthi'n cynnal arolygiad yn eich awdurdod lleol. Rydym yn adolygu pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau statudol o ran cadw pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt yn ddiogel, a hyrwyddo eu llesiant. 

 

A fyddech cystal â chwblhau'r arolwg byr hwn mewn perthynas ag adolygiad AGC o'r awdurdod lleol hwn?

Dylai'r arolwg gymryd tua 10-15 munud i'w gwblhau. Mae adrannau'r arolwg hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.


Mae eich sylwadau unigol yn gyfrinachol, ond mae'n bosibl y cânt eu defnyddio i roi adborth i'r awdurdod lleol. Os byddai'n well gennych siarad â ni am eich adborth, ffoniwch ni ar 0300 7900 126 neu e-bostiwch AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru

 

Caiff gwybodaeth am unrhyw faterion diogelu ei datgelu i'r awdurdod lleol.