Dewis iaith arall

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: adroddiad blynyddol drafft 2025 i 2026

Rydym yn croesawu adborth ar yr Adroddiad drafft hwn ac rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau ychwanegol lle y byddem yn gwerthfawrogi clywed eich barn.

 

Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 29 Tachwedd 2024 a gallwch naill ai anfon eich sylwadau dros e-bost neu gwblhau'r ffurflen ar ein gwefan YMA .

 

Mae croeso hefyd ichi gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r cyfeiriad isod. I ofyn am fersiynau printiedig o'r Adroddiad, anfonwch e-bost atom neu ysgrifennwch at:

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Trydydd Llawr Dwyrain

Adeiladau'r Goron

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

 
Cynyddu cydnabyddiaeth ariannol drwy ddefnyddio Arolwg Blynyddol Cymru o Oriau ac Enillion (ASHE) 
 

C1. Mae'r Panel yn gwbl ymwybodol o'r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus ac effaith ei benderfyniadau ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Mae'r Panel hefyd yn ystyriol o'n Nodau a'n Hamcanion i gynnig pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol i gefnogi aelodau etholedig ac annog amrywiaeth mewn cynrychiolaeth.

Felly, rydym yn cynnig y dylid defnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer Cymru gyfan i gynyddu eu cydnabyddiaeth ariannol yn unol ag enillion cyfartalog eu hetholwyr. 

 

A ydych chi'n credu bod y Panel wedi taro'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr? Os nad ydych yn cytuno, a oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill?

 
Effaith penderfyniadau cyfredol 

C2: Gan ddilyn tystiolaeth a gafwyd gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd Prif Gynghorau, ar hyblygrwydd lleol taliadau i aelodau cyfetholedig, sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub. Ymgynghorodd y Panel hwn ar y cynnig hwn ac roedd yr ymatebion (o'r ymgynghoriad ar adroddiad blynyddol drafft 2024 i 2025) yn cefnogi penderfyniadau'r Panel felly ni wnaed unrhyw newidiadau i'r Penderfyniadau terfynol. O ganlyniad, penderfynodd y Panel roi hyblygrwydd i swyddogion perthnasol benderfynu a fyddai'n briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr.  

Nawr, hoffai'r Panel wybod a yw eich awdurdod perthnasol wedi mabwysiadu'r penderfyniad hwn: 

 

C3: Y llynedd, ar y cyd ag Un Llais Cymru, cynhaliodd y Panel seminar ar y broses ar gyfer trin treth ar lwfansau Cynghorau Cymuned a Thref aelodau. Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd canllawiau ar sut i gymhwyso'r esemptiad at y lwfans gweithio gartref (£156). 

Hoffai'r Panel wybod a yw'r seminar a/neu'r canllawiau wedi cynyddu nifer yr aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref sy'n cael y lwfans. 

 

C4: Dylid cofnodi pob lwfans a delir i aelodau etholedig Cynghorau Cymuned a Thref ar y Datganiad Blynyddol o Daliadau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref (gan nodi y byddai Datganiadau sydd eisoes wedi'u cyflwyno gan Gynghorau Cymuned a Thref yn cael eu derbyn). Mae hyn yn cynnwys datganiadau nad ydynt yn nodi unrhyw lwfansau. 

Yn gynharach eleni, anfonwyd templed diwygiedig ar gyfer y Datganiad ynghyd â nodyn cyngor i'r Cynghorau Cymuned a Thref. Hoffai'r Panel wybod a yw'r Templed unwaith eto wedi cynyddu nifer y cynghorwyr sy'n hawlio lwfansau?