Iaith:
St David Awards

Gwobr Dewi Sant 2027: Ffurflen enwebu

1. Pwy ydych chi’n enwebu?
Tudalen 1 o 3

Rhowch gymaint o fanylion â phosibl, gan gyfeirio at y testun cynorthwyol islaw pob cwestiwn neu adran 'Am y gwobrau' y wefan hon.
 

Pwy ydych chi’n enwebu?
Enwebai – Y person neu’r grŵp yr ydych yn eu henwebu: *

 

Dewiswch gategori perthnasol i'ch enwebai.
Edrychwch ar y canllawiau isod am ddiffiniadau. *

 
  • Amgylchedd: Ar gyfer unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at ddiogelu neu wella’r amgylchedd naturiol. Gallai hyn fod ar lefel leol, ledled Cymru neu’n rhyngwladol a gallai gynnwys gwaith cadwraeth, mentrau cynaliadwyedd, addysg amgylcheddol, neu waith cymunedol sy’n taclo newid hinsawdd.
  • Arwr Cymunedol: Ar gyfer rhywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau pobl yn eu cymuned leol neu ledled Cymru. Er enghraifft, rhywun sydd wedi sefydlu neu arwain mentrau sy’n dod â phobl at ei gilydd, mynd i’r afael â phroblemau lleol, neu wneud lles i’r gymdogaeth.
  • Busnes ac Arloesedd: Ar gyfer unigolyn, grŵp neu sefydliad yng Nghymru sydd wedi cael llwyddiant eithriadol trwy fusnes neu arloesi. Gall hyn gynnwys creu swyddi , datblygu cynnyrch, gwasanaethau, prosesau, technolegau neu syniadau newydd sydd o fudd i gymdeithas ac yn codi proffil entreprenuriaeth Cymru.
  • Chwaraeon: Ar gyfer unigolyn, tîm neu grŵp sydd wedi rhagori mewn chwaraeon cenedlaethol neu ryngwladol, neu sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i helpu eraill i lwyddo. Gall enwebeion fod yn gystadleuwyr, hyfforddwyr, swyddogion, neu’r rhai sydd wedi gweithio y tu ôl i’r llenni i gefnogi ein hathletwyr elît.
  • Dewrder: Ar gyfer unigolyn neu grŵp sydd wedi dangos dewrder rhyfeddol, yn wyneb perygl neu adfyd, er gwaetha’r risg i’w diogelwch eu hunain.
  • Diwylliant: Ar gyfer rhywun sydd wedi rhagori yn y celfyddydau a diwylliant - cerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol, ffilm, theatr, treftadaeth, neu’r Gymraeg. Efallai bod yr enwebeion wedi gwneud eu marc yng Nghymru neu wedi dod â diwylliant Cymru i gynulleidfa ehangach.
  • Er Lles ein Plant: Ar gyfer unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i wella bywydau plant yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, chwaraeon, y celfyddydau, neu’r sector gwirfoddol - neu unrhyw un sydd, trwy ymroddiad, arloesedd neu eiriolaeth, wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant.
  • Gwasanaethu’r Cyhoedd: Ar gyfer unigolyn neu dîm sy’n gweithio yn rheng flaen ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn darparu gwasanaeth eithriadol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr ym maes iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, y gwasanaethau brys a phob gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen arall.
  • Gwirfoddoli: Ar gyfer unigolyn neu grŵp sy’n rhoi eu hamser yn ddi-dâl i gefnogi eraill neu i gryfhau eu cymuned. Gallai hyn gynnwys gwirfoddoli i sefydliad lleol, elusen genedlaethol, neu brosiect ar lawr gwlad. Gall enwebeion hefyd gael eu cydnabod am eu gwaith yn codi arian neu godi ymwybyddiaeth o achosion sydd o fudd i Gymru a’i phobl.
  • Person Ifanc: Ar gyfer person ifanc eithriadol ac ysbrydoledig, neu grŵp o bobl ifanc, rhwng 11 a 19 oed, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol neu wedi cyflawni rhywbeth rhyfeddol mewn unrhyw faes. Gallai hyn fod mewn chwaraeon, y celfyddydau, gweithredu cymunedol, entrepreneuriaeth, gwirfoddoli, neu unrhyw faes arall lle maent wedi cael effaith gadarnhaol.

Disgrifiwch y person neu'r grŵp yr ydych yn ei enwebu. (100 gair ar y mwyaf)
E.e Pwy ydyn nhw? O ble maent yn dod? Beth yw eu cymeriad a/ neu natur eu gwaith o ddydd i ddydd? *

 
  • Peintiwch lun o'r person neu'r grŵp er mwyn i'r rhai sy'n ymwneud â'r broses beirniadu ddeall pwy ydynt cyn eu darllen yn yr adran nesaf ynglŷn â pham fod yr hyn maen nhw wedi'i wneud yn haeddu cael ei ystyried ar gyfer gwobr genedlaethol.
  • Hyd yn oed os ydych yn enwebu rhywun adnabyddus, rhaid disgrifio’r hyn y mae wedi’i gyflawni’n gywir. Disgrifiwch ei gymeriad a’i weithredoedd wrth y Pwyllgor Ymgynghori a pheidiwch â rhagdybio bod pawb yn gwybod amdano neu amdani a’i llwyddiannau.

Pam ydych chi'n eu henwebu?
Esboniwch pam eu bod yn haeddu Gwobr Dewi Sant. (700 gair ar y mwyaf)
E.e Pa mor eithriadol oedd eu ymddygiad? Beth yw canlyniad eu gweithredoedd? *

 
  • Rhowch enghreifftiau da ac esbonio sut y bu i’ch enwebai lwyddo, Ni fydd dweud “Mae Dafydd Dafis wedi codi llawer o arian at achosion da” yn ddigon. Byddai “Trefnodd Dafydd Dafis râs 5km noddedig yn y pentref a chael cefnogaeth noddwyr lleol adnabyddus i godi £5,000 at achosion da” yn well.
  • Rhowch gymaint o ffeithiau ag yr ydych yn eu gwybod neu y gallwch gael hyd iddyn nhw ar-lein. Mae croeso ichi ddefnyddio pwyntiau bwled yn lle brawddegau llawn i gadw o dan y terfyn geiriau.

Dolenni cefndirol (dewisol)
Rhowch ddolenni gwefan i esiamplau o waith neu weithredoedd eich enwebai fan hyn. Gall y rhain gynnwys erthyglau newyddion, gwefannau cwmni, albwm lluniau ar-lein, tudalennau codi arian, fideos neu dudalennau cyfryngau cymdeithasol.