Iaith:

Cadarnhewch eich diddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith ymchwil StatsCymru

1. Cadarnhewch eich diddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith ymchwil StatsCymru

 
Lansiodd Llywodraeth Cymru wasanaeth newydd StatsCymru ym mis Medi 2025.

Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus y gwasanaeth newydd.  Rydym wedi penodi Marvell Consulting i gynnal gwaith ymchwil gyda chi, ein defnyddwyr, er mwyn deall eich blaenoriaethau, a sicrhau bod nodweddion newydd y byddwn yn eu datblygu yn gweithio i chi.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr StatsCymru, estynnir gwahoddiad cynnes i chi gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn.  Bydd eich mewnbwn yn cyfrannu at ddatblygiad nodweddion newydd yn uniongyrchol.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil trwy ymateb i’r holiadur hwn.  Byddwn yn cysylltu â chi os byddwch yn cael eich dewis i gymryd rhan.

Er mwyn deall sut yr ydym yn defnyddio eich data, a fyddech gystal â darllen ein hysbysiad preifatrwydd ymchwil.

Os ydych chi wedi rhannu eich manylion yn flaenorol er mwyn cymryd rhan yng ngwaith ymchwil StatsCymru, a fyddech gystal ag ymateb i’r holiadur hwn er mwyn rhoi gwybod i ni bod gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan o hyd.  Os wnaethoch chi rannu eich manylion yn ddiweddar, dim ond eich enw a’ch cyfeiriad e-bost y byddwn yn gofyn amdano er mwyn i ni allu cysylltu gyda’r manylion yr ydym yn eu dal amdanoch chi yn barod.

Rhaid ichi anfon eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.