Iaith:

Y Papur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol

1. Cwestiynau
Tudalen 1 o 15

Mae’r cwestiynau isod wedi’u grwpio yn ôl adran. Atebwch y cwestiynau sy’n berthnasol i chi. Nid oes angen i chi ateb pob cwestiwn.

 

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)


Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac efallai y byddwn yn cyhoeddi rhai ymatebion yn llawn. Cyhoeddir ymatebion yn ddienw ac ni chynhwysir enwau na manylion cyswllt oni bai eich bod yn gofyn fel arall wrth gyflwyno’ch ymateb. Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth a allai eich adnabod chi neu unigolion eraill yn eich ymateb. 


Noder y gall ymatebion fod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac, o dan rai amgylchiadau, efallai y bydd angen datgelu gwybodaeth. Pan gyhoeddir ymatebion, cânt eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata personol a ddelir ar wahân gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.