Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wrthi'n arolygu eich awdurdod lleol. Byddem yn croesawu eich barn am ba mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi pobl.
Ar ddiwedd yr arolwg mae cwestiynau a fydd yn ein helpu i ddeall pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn hyrwyddo ac yn sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'r cwestiynau hyn yn ddewisol.
Mae eich sylwadau yn gyfrinachol, ond mae'n bosibl y cânt eu defnyddio i roi adborth i'r awdurdod lleol. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gwblhau'r arolwg hwn. Os byddai'n well gennych siarad â ni am eich adborth, ffoniwch ni ar 0300 7900 126 neu e-bostiwch CIWLocalAuthority@gov.wales
Caiff gwybodaeth am unrhyw faterion diogelu ei datgelu i'r awdurdod lleol.