Canllawiau diwygiedig ar gyfer cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr
C1. A oes unrhyw beth ar goll yn y canllawiau hyn i awdurdodau lleol asesu’n effeithiol a diwallu anghenion llety ei boblogaeth o Sipsiwn a Theithwyr nomadaidd?
C2. A yw’r canllawiau’n caniatáu perthynas waith effeithiol a chynhyrchiol rhwng awdurdodau lleol a phreswylwyr?
C3. A oes unrhyw newidiadau technegol y gallwch eu hargymell a fyddai’n gwneud y canllawiau’n fwy effeithiol i awdurdodau lleol a phreswylwyr?
C4. Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y canllawiau ar yr iaith Gymraeg?
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol?
C5. Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau er mwyn gwneud y canlynol:
- cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
C6. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion perthnasol nad ydynt wedi cael sylw penodol gennym, nodwch nhw yn y gofod a ganlyn: