Data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant: ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y system ysgolion
Rhaid ichi anfon eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.
Cwestiwn 1: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y dull cyffredinol o ddefnyddio data a gwybodaeth yn y system ysgolion ac egwyddorion yr ecosystem wybodaeth yn cyd-fynd ag ethos ac uchelgeisiau ein Cwricwlwm i Gymru?
Cwestiwn 2: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod egwyddorion yr ecosystem wybodaeth yn helpu i ddefnyddio data a gwybodaeth mewn modd cymesur er mwyn cefnogi'r broses o werthuso a gwella (dull sy'n sicrhau bod y dysgwr wrth wraidd y broses ac nad yw'n annog system berfformiadol a arweinir gan atebolrwydd)?
Cwestiwn 3: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod egwyddorion yr ecosystem wybodaeth yn helpu i ddefnyddio data a gwybodaeth mewn modd cynaliadwy er mwyn cefnogi'r broses o werthuso a gwella?
Cwestiwn 4: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod egwyddorion yr ecosystem wybodaeth yn fodd i feithrin dealltwriaeth gytbwys a chyfannol o ysgolion a dysgu ymhlith cynulleidfaoedd allanol, fel rhieni a gofalwyr?
Cwestiwn 5: A oes unrhyw egwyddorion neu agweddau eraill sy'n gysylltiedig â'r ecosystem wybodaeth arfaethedig y dylid eu hychwanegu?
Cwestiwn 6: Beth fydd effaith egwyddorion yr ecosystem wybodaeth ar y gweithlu, gan gynnwys unrhyw effaith bosibl ar lwyth gwaith?
Cwestiwn 7: Beth yw eich barn ar egwyddorion yr ecosystem wybodaeth o ran cefnogi dysgwyr unigol a diwallu eu hanghenion amrywiol, gan gynnwys y dysgwyr hynny o gefndiroedd dan anfantais a'r dysgwyr hynny sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (fel y'u nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010)?
Cwestiwn 8: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 ( y Fframwaith 14 i 16) yn cyd-fynd â'r Hawl i Ddysgu 14 i 16 gan gefnogi ein huchelgeisiau ehangach fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru ar yr un pryd?
Cwestiwn 9: A ddylai unrhyw ddangosyddion ychwanegol gael eu cynnwys yn y fframwaith hwn er mwyn cefnogi dysgu a gwelliant yn llawn? Rhowch fanylion.
Cwestiwn 10: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod sefydlu'r Fframwaith 14 i 16 yn cynorthwyo'r broses o gyfleu cwricwla a dysgu 14 i 16 mewn modd cydlynol yng nghyd-destunau ysgolion eu hunain, gan alluogi dealltwriaeth ystyrlon a theg?
Cwestiwn 11: Beth yw'r heriau a'r cyfleoedd wrth newid i ddefnyddio'r Fframwaith 14 i 16?
Cwestiwn 12: Beth arall y bydd angen inni ei ystyried wrth ddechrau cysoni ein systemau adrodd sy'n darparu setiau data i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn cefnogi prosesau hunanwerthuso gan ddefnyddio'r Fframwaith 14 i 16 hwn sydd ar gael i'r cyhoedd?
Cwestiwn 13: A fydd angen canllawiau penodol ar yr agweddau ar y Fframwaith 14 i 16 lle y disgwylir i ysgolion ddarparu gwybodaeth? Rhowch fanylion.
Cwestiwn 14: I ba raddau rydych chi'n cytuno bod y Fframwaith 14 i 16 yn helpu i ganolbwyntio ar nodau cyffredin Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr?
Cwestiwn 15: I ba raddau rydych chi'n cytuno y bydd y Fframwaith 14 i 16 yn sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar y gweithlu ac yn ei alluogi i barhau i ganolbwyntio ar ddarparu ar gyfer dysgwyr a'u helpu i wneud cynnydd?
Cwestiwn 16: Beth fydd effaith y Fframwaith 14 i 16 ar y gweithlu, gan gynnwys yr effaith bosibl ar lwyth gwaith?
Cwestiwn 17: Beth yw eich barn ar effaith y Fframwaith 14 i 16 o ran cefnogi dysgwyr unigol a diwallu eu hanghenion amrywiol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd dan anfantais a'r rhai sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig (fel y'u nodir yn Neddf Cydraddoldeb 14)?
Cwestiwn 18: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y dull cyffredinol o ddefnyddio data a gwybodaeth yn y system ysgolion ac effeithiau egwyddorion yr ecosystem wybodaeth ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 19: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu'r dull cyffredinol o ddefnyddio data a gwybodaeth yn y system ysgolion ac egwyddorion yr ecosystem wybodaeth er mwyn sicrhau:
- ei fod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- nad yw’n cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
Cwestiwn 20: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y Fframwaith 14 i 16 ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 21: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu'r Fframwaith 14 i 16 er mwyn sicrhau:
- ei fod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- nad yw’n cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?
Cwestiwn 22: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma: