Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu ansawdd y triniaethau yn y lleoliad hwn er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal o'r safonau gofynnol.
Helpwch ni drwy gwblhau'r holiadur byr hwn. Barn y cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn rheolaidd yw'r ffordd bwysicaf o roi gwybod i ni am ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
Mae'n ddienw, ac ni fydd neb yn gallu eich adnabod o'ch atebion. Mae cwestiynau'n ddewisol (oni nodir yn wahanol).
Diolch am eich help.