Iaith:

Disgrifiad Manwl o Gynnydd Llythrennedd

 

Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.

Rwy'n deall y bydd unrhyw destun a roddaf yn y ffurflen hon yn cael ei gofnodi ac ar gael i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os nad wyf yn clicio ar y botwm "cyflwyno" ar y dudalen olaf.

Rwy'n deall hefyd mai dim ond ffurflenni a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy glicio ar y botwm "cyflwyno" fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.   

Bydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu unrhyw destun sydd wedi'i gofnodi ar ffurflenni lle nad yw'r defnyddiwr wedi clicio ar y botwm "cyflwyno".

 

 

Cwestiwn 1: I ba raddau y mae’r canllawiau cynnydd arfaethedig yn gwella eich dealltwriaeth o sut i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn llythrennedd, gan gynnwys cefnogi datblygiad tuag at gam cynnydd 1?

 

Cwestiwn 2: I ba raddau y credwch fod y canllawiau cynnydd arfaethedig yn berthnasol ac yn addas ar gyfer deall cynnydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol?

 

Cwestiwn 3: Pa mor ddefnyddiol yw’r canllawiau cynnydd arfaethedig wrth gefnogi cynllunio’r cwricwlwm, dysgu ac addysgu?

 

Cwestiwn 4: Wrth geisio sicrhau cydbwysedd rhwng eglurder, ymreolaeth broffesiynol a llwyth gwaith, sut fyddech chi’n disgrifio lefel y manylder a ddarperir yn nhablau’r camau cynnydd?

 

Cwestiwn 5: A ydych yn cytuno â’n dull o drefnu’r wybodaeth yn ôl camau cynnydd gyda grwpiau blwyddyn dangosol? (Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer dulliau amgen os oes gennych farn ar hyn.)

 

Cwestiwn 6: A yw’r manylion ychwanegol yn addas i gefnogi ymarferwyr sy’n addysgu pynciau eraill i ddeall yr hyn y mae angen i blant ei ddysgu mewn llythrennedd, a phryd i wreiddio hyn ar draws y cwricwlwm?

 

Cwestiwn 7: Pa mor glir a defnyddiol yw’r adran ‘cyflwyniad’ yn y canllawiau?

 

Cwestiwn 8: Pa mor glir a defnyddiol yw’r cyflwyniad i bob cam cynnydd?

 

Cwestiwn 9: Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys tablau’r camau cynnydd o dan y pennawd: ‘Dylai ymarferwyr’?

 

Rhowch sylwadau ar:

  • a yw’r cynnwys yn darparu cymorth defnyddiol i ymarferwyr
  • ai at ddibenion cynllunio, diagnosis neu ddiben arall y mae’n cael ei ddefnyddio orau
  • a oes perygl y gallai gael ei ddehongli’n anfwriadol fel rhestr wirio neu fel lefelau

 

Cwestiwn 10: Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys tablau’r camau cynnydd o dan y pennawd: ‘Mae dysgwyr yn gyson ac yn hyderus yn’?

 

Rhowch sylwadau ar:

  • a yw’r cynnwys yn darparu cymorth defnyddiol i ymarferwyr
  • ai at ddibenion cynllunio, diagnosis neu ddiben arall y mae’n cael ei ddefnyddio orau
  • a oes perygl y gallai gael ei ddehongli’n anfwriadol fel rhestr wirio neu fel lefelau

 

Cwestiwn 11: Pa ddysgu proffesiynol, enghreifftiau, adnoddau, cymorth asesu neu ganllawiau fyddai’n cefnogi gweithredu’r canllawiau cynnydd llythrennedd arfaethedig yn effeithiol?

 

Cwestiwn 12: Pa effaith y credwch y byddai’r cynigion arfaethedig yn ei chael ar eich llwyth gwaith, wrth eu rhoi ar waith ac yn y tymor hwy? Esboniwch unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ac unrhyw gamau a allai helpu i osgoi neu leihau llwyth gwaith ychwanegol. Mae gennym ddiddordeb penodol yn y canlynol:

  • yr effaith arnoch chi nawr ac yn ystod y 12 mis nesaf
  • yr effaith debygol ar ôl 12 mis
  • beth y gellid ei wneud i liniaru’r effaith