Adolygiad Cenedlaethol AGIC o Wasanaethau Therapi Electrogynhyrfol (ECT) ar gyfer 2026

0%

1. Cyflwyniad

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau'r GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol i nodi meysydd y mae angen eu gwella a meysydd ymarfer da.

Yr Arolwg

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau Therapi Electrogynhyrfol (ECT) ledled Cymru.

Hoffem glywed gan staff sy'n ymwneud â darparu, rheoli a llywodraethu gwasanaethau ECT. Adroddir ar eich adborth yn genedlaethol a bydd yn ein helpu i ddeall sut mae gwasanaethau ECT yn gweithredu'n ymarferol, nodi cryfderau, archwilio amrywiaeth ledled Cymru a nodi cyfleoedd i wella.

Mae'r ymatebion yn ddi-enw ac nid ydynt yn gysylltiedig â gwasanaeth ECT penodol yng Nghymru. Peidiwch â chynnwys enwau nac unrhyw wybodaeth arall y gellid adnabod cleifion unigol, aelodau o staff neu unigolion eraill ohoni yn eich ymateb.

Codi llais i gadw pobl yn ddiogel

Mae codi llais yn elfen hanfodol o ddiwylliant diogel a dylai fod yn arfer i bawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ni waeth beth fo'u rôl. Mae AGIC yn chwarae rôl arbennig i bobl sy'n ystyried codi pryderon am gamweddau ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Byddwn yn gwrando ar eich pryder ac yn esbonio sut y gallwn helpu. Efallai y bydd angen i ni anfon y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni at sefydliad neu gorff rheoleiddio arall os byddai'n fwy priodol iddo ymchwilio i'r pryder.

Bwriedir i'r holiadur hwn eich helpu i rannu eich barn a'ch profiadau. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo bod angen i chi drafod pryder penodol, neu bwnc sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ddiogelwch cleifion neu staff, dylech ei godi'n uniongyrchol, drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://www.agic.org.uk/codi-llais-i-gadw-pobl-yn-ddiogel

Diolch am eich help.