Iaith:

Papur Gwyn ar Les Anifeiliaid Gwyllt

 
Rydym yn gwahodd sylwadau ar ddau fesur penodol i fynd i’r afael â phryderon penodol am les morloi ac ysgyfarnogod yng Nghymru.

Mae'r cwestiynau isod wedi'u grwpio yn ôl adran. Ymatebwch i'r cwestiynau sydd yn berthnasol i chi. Does dim rhaid ichi ateb pob cwestiwn.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) 
Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac efallai y byddwn yn cyhoeddi rhai ymatebion yn llawn. Cyhoeddir ymatebion yn ddienw ac ni chynhwysir enwau na manylion cyswllt oni bai eich bod yn gofyn fel arall wrth gyflwyno'ch ymateb. Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth a allai eich adnabod chi neu unigolion eraill yn eich ymateb. 

Noder y gall ymatebion fod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac, o dan rai amgylchiadau, efallai y bydd angen datgelu gwybodaeth. Pan gyhoeddir ymatebion, cânt eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata personol a ddelir ar wahân gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am fwy na thair blynedd.

Cynigion i gyflwyno trosedd aflonyddu ar forloi

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno y dylai Cymru gyflwyno trosedd o aflonyddu ar forloi'n fwriadol?

 

Cwestiwn 2: Ydych chi'n cytuno y dylai Cymru gyflwyno trosedd o aflonyddu ar forloi'n ddi-hid?

 

Cwestiwn 3: Ydych chi'n cytuno y dylai'r drosedd arfaethedig fod yn berthnasol lle bynnag y mae morloi i'w gweld yng Nghymru, yn hytrach na mewn lleoliadau dynodedig fel safleoedd gorffwyso yn unig?

 

Cwestiwn 4: Ydych chi'n cytuno y dylai eithriadau i'r drosedd fodoli mewn rhai amgylchiadau? Os felly, a yw'r eithriadau penodol yn adran 10 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn briodol ac yn ddigonol ar gyfer trosedd aflonyddu ar forloi? Pa gamau gweithredu eraill y gallem eu hystyried i gyflawni nodau'r strategaeth? 

 

Cwestiwn 5: Ydych chi'n cytuno y dylai trwyddedau fod ar gael mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig i ganiatáu gweithgareddau a fyddai fel arall yn drosedd aflonyddu? Os felly, a ydych o'r farn bod y seiliau trwyddedu yn adran 16 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn briodol ac yn ddigonol? Pa gamau gweithredu eraill y gallem eu hystyried i gyflawni nodau'r strategaeth?

 

Cwestiwn 6: Oes gennych unrhyw farn mewn perthynas â'r costau, manteision, effeithiau tebygol neu weithrediad neu weithrediad ymarferol y cynnig?

 

Cynigion ar gyfer tymor cau ar gyfer ysgyfarnogod 

Cwestiwn 7: Ydych chi'n cytuno y dylai Cymru gyflwyno tymor cau statudol ar gyfer ysgyfarnogod, sy'n golygu y byddai'n anghyfreithlon lladd, anafu neu gymryd ysgyfarnogod yn fwriadol yn ystod y cyfnod penodedig?

 

Cwestiwn 8: Ydych chi'n cytuno y dylai Cymru gyflwyno tymor cau statudol ar gyfer ysgyfarnogod, sy'n golygu y byddai'n anghyfreithlon lladd, anafu neu gymryd ysgyfarnogod yn ddi-hid yn ystod y cyfnod penodedig?

 

Cwestiwn 9: Ydych chi'n cytuno â'r dyddiadau tymor cau arfaethedig o 1 Chwefror i 30 Medi? Rhowch resymau dros eich ateb, gan gynnwys unrhyw farn ar ddyddiadau eraill.

 

Cwestiwn 10: Oes gennych unrhyw farn ar effaith y mesurau arfaethedig ar hawliau presennol meddianwyr tir i ladd a chymryd ysgyfarnogod ar y tir sydd yn eu meddiant? 

 

Cwestiwn 11: Ydych chi'n cytuno y dylai eithriadau fod ar gael mewn rhai amgylchiadau? Os felly, a ydych o'r farn bod yr eithriadau penodol yn adran 10 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn briodol ac yn ddigonol ar gyfer cyflwyno trosedd o ladd, anafu neu gymryd ysgyfarnog yn fwriadol neu'n ddi-hid yn ystod y tymor cau? Pa gamau gweithredu eraill y gallem eu hystyried i gyflawni nodau'r strategaeth? 

 

Cwestiwn: 12:  Ydych chi'n cytuno y dylai trwyddedau fod ar gael mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig i ganiatáu gweithgareddau a fyddai fel arall yn drosedd? Os felly, a ydych o'r farn bod y seiliau trwyddedu yn adran 16 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn briodol ac yn ddigonol? Pa gamau gweithredu eraill y gallem eu hystyried i gyflawni nodau'r strategaeth?

 

Cwestiwn 13: A ydych yn cytuno y dylai Cymru wneud troseddau cysylltiedig sy'n cyfyngu ar yr hyn y gall person ei wneud ag ysgyfarnog (ar unrhyw adeg) os caiff ei gymryd, ei anafu neu ei ladd yn anghyfreithlon yn ystod y tymor cau yn unol ag amddiffyniadau eraill yn Neddf 1981? Pa gamau gweithredu eraill y gallem eu hystyried i gyflawni nodau'r strategaeth?

 

Cwestiwn 14: Oes gennych unrhyw farn mewn perthynas â'r costau, manteision, effeithiau tebygol neu weithrediad ymarferol y cynnig?

 

Asesiad Effaith Rheoleiddiol ac Asesiad Effaith Integredig  

Cwestiwn 15: A oes gennych unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a fyddai'n ddefnyddiol i lywio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a/neu'r Asesiad Effaith Integredig a gyhoeddir ochr yn ochr â'r Papur Gwyn? Os felly, a wnewch chi ei darparu. 

Dewiswch un: 

 

Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.

Rwy'n deall y bydd unrhyw destun a roddaf yn y ffurflen hon yn cael ei gofnodi ac ar gael i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os nad wyf yn clicio ar y botwm "cyflwyno" ar y dudalen olaf.

Rwy'n deall hefyd mai dim ond ffurflenni a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy glicio ar y botwm "cyflwyno" fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu unrhyw destun sydd wedi'i gofnodi ar ffurflenni lle nad yw'r defnyddiwr wedi clicio ar y botwm "cyflwyno". *