Ymgysylltu â defnyddwyr: Data am y Gymraeg y tu allan i Gymru

0%

1. Gwybodaeth i ymatebwyr
Tudalen 1 o 6

 

Diolch am gymryd rhan yn ein hymarfer ymgysylltu â defnyddwyr!

 

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg, rydym yn cydweithio â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i archwilio data ar siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru.

Ar hyn o bryd, mae diffyg data cynhwysfawr ar siaradwyr Cymraeg yng ngweddill y Deyrnas Unedig (DU), ac rydym am ddeall anghenion defnyddwyr yn well yn y maes hwn.

Wrth i'n poblogaeth ddod yn fwyfwy symudol, mae'r angen am well dealltwriaeth o'r sefyllfa hon yn cynyddu. Hoffem glywed eich barn ar ba ddata sydd eu hangen arnoch chi, a sut y gallech chi eu defnyddio.

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall anghenion ein defnyddwyr yn well a sicrhau y byddai unrhyw ddata a gesglir yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.

 

Nid yw'n ofynnol i ymatebwyr ateb pob cwestiwn. Ewch ymlaen i unrhyw adrannau sy'n berthnasol i chi, gan wneud yn siŵr eich bod yn dal i glicio ar 'Gorffen yr arolwg' ar y diwedd ar ôl i chi orffen.


Daw'r arolwg i ben ar 5 Mai 2025. Bydd canfyddiadau cychwynnol yr ymarfer hwn ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Data personol

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich cyfeiriad e-bost, ac unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch fel rhan o’ch ymateb, am hyd at flwyddyn a dim ond yn eu defnyddio os bydd angen i ni gysylltu â chi i ddeall yr ymatebion a ddarparwyd gennych ymhellach neu am gwestiynau dilynol. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw drydydd parti. Bydd unrhyw wybodaeth anadnabyddadwy (fel crynodeb o ymatebion a gynhyrchir gennym gan yr holl ymatebwyr) yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol.

Efallai yr hoffech ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd , efallai y byddwch hefyd am ddarllen y polisi preifatrwydd ar SmartSurvey.

 

Diolch yn fawr.