Ymgynghoriad ar Fanyleb Brentisiaethau Cymru arfaethedig
Trosolwg
Rydym eisiau eich barn ar Fanyleb Prentisiaethau Cymru arfaethedig, a fyddai'n gosod y gofynion ar gyfer prentisiaethau cymeradwy yng Nghymru o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Rydym yn ymgynghori ar y cynnig a fyddai'n gosod y gofynion ar gyfer prentisiaethau Cymreig cymeradwy o dan adran 115 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
Byddai’r cynigion yn gwneud y canlynol:
- sefydlu manyleb newydd ar gyfer prentisiaethau Cymreig cymeradwy o dan y fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru
- gosod gofynion ar gyfer cynnwys, datblygu, adolygu, diwygio a chyhoeddi fframweithiau prentisiaethau a'u tynnu yn ôl
- cynnal cymhwysedd galwedigaethol fel ffocws canolog prentisiaethau
- darparu mwy o hyblygrwydd mewn achosion lle nad oes cymwysterau ar gael neu lle mae angen datblygu rhai newydd
- cyflwyno dull mwy cymesur o ymdrin â gofynion Sgiliau Hanfodol ar lefelau prentisiaeth uwch
- cefnogi'r gwaith o ystyried cyfleoedd i ehangu mynediad at brentisiaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg
- darparu sefydlogrwydd a pharhad i ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr wrth weithredu'r trefniadau newydd
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn gofyn am farn ar y Canllawiau drafft ar Gymhwyso Manyleb Brentisiaethau Cymru, y Rhestr ddrafft o Gymwysterau Procsi Cydnabyddedig ar gyfer Sgiliau Hanfodol (Cymru), a'r Asesiad Effaith Integredig drafft.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.
Rwy'n deall y bydd unrhyw destun a roddaf yn y ffurflen hon yn cael ei gofnodi ac ar gael i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os nad wyf yn clicio ar y botwm "cyflwyno" ar y dudalen olaf.
Rwy'n deall hefyd mai dim ond ffurflenni a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy glicio ar y botwm "cyflwyno" fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.
Bydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu unrhyw destun sydd wedi'i gofnodi ar ffurflenni lle nad yw'r defnyddiwr wedi clicio ar y botwm "cyflwyno".
Cwestiwn 1 Hyblygrwydd a diogelu at y dyfodol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.2.1, 2.2.7 i 2.2.10
Amcan
Bwriad y Fanyleb ddrafft yw darparu fframwaith mwy hyblyg ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru sy'n addas at y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys caniatáu i fframweithiau prentisiaethau ddefnyddio safonau galwedigaethol a threfniadau asesu penodol pan nad oes cymwysterau ar gael neu pan fo angen eu datblygu, gan gynnal ansawdd a chysondeb ar draws y system brentisiaethau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y bydd y gofynion arfaethedig yn cefnogi'r amcan hwn?
Cwestiwn 2: cymhwysedd galwedigaethol ac asesu
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.2.7 i 2.3.2
Amcan
Bwriad y Fanyleb ddrafft yw sicrhau bod cymhwysedd galwedigaethol yn parhau i fod yn ganolog i fframweithiau prentisiaethau drwy ofynion sy’n ymwneud â safonau galwedigaethol, safonau cyrhaeddiad a threfniadau asesu. Mae hyn yn cynnwys gofynion ar gyfer fframweithiau sy'n seiliedig ar gymwysterau a, phan nad oes cymwysterau ar gael neu pan fo angen eu datblygu, fframweithiau sy'n seiliedig ar safonau galwedigaethol a dysgu ac asesu cyfwerth.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y bydd y gofynion arfaethedig yn cefnogi cyflawni cymhwysedd galwedigaethol yn gyson ar draws fframweithiau prentisiaethau?
Cwestiwn 3: isafswm y dysgu
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.1.6 i 2.1.9
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn ei gwneud yn ofynnol i fframweithiau prentisiaethau nodi isafswm y dysgu ar ffurf credydau FfCChC a byddai'n cadw'r gofyniad sylfaenol o 37 credyd ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a gwybodaeth dechnegol.
Y bwriad yw cynnal disgwyliad sylfaenol cyson ar draws fframweithiau prentisiaethau a darparu sefydlogrwydd wrth weithredu'r Fanyleb.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y gofyniad sylfaenol o 37 credyd yn darparu sail briodol ar gyfer fframweithiau prentisiaethau?
Cwestiwn 4: gofyniad credyd ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.1.10
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn ei gwneud yn ofynnol i gymhwysedd galwedigaethol gynrychioli o leiaf 50% o gyfanswm gwerth credyd fframwaith, oni bai ei fod yn cael ei gyflwyno trwy gymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun.
Y bwriad yw sicrhau bod cymhwysedd galwedigaethol yn parhau'n brif ffocws fframweithiau prentisiaethau a chaniatáu hyblygrwydd ar draws galwedigaethau a sectorau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y bydd y gofyniad arfaethedig i gymhwysedd galwedigaethol gynrychioli o leiaf 50% o gyfanswm y gwerth credyd yn cefnogi fframweithiau prentisiaethau o ansawdd uchel?
Cwestiwn 5: gofynion Sgiliau Hanfodol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.6.1 i 2.7.3
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn cadw gofynion Sgiliau Hanfodol gorfodol ar gyfer Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) a Phrentisiaethau (Lefel 3).
Ar gyfer Prentisiaethau Uwch a Gradd-brentisiaethau (Lefelau 4 i 7), ni fyddai Sgiliau Hanfodol bellach yn orfodol. Yn hytrach, byddai angen i fframweithiau ystyried anghenion dysgwyr a gallant barhau i gynnwys Sgiliau Hanfodol lle maent yn ychwanegu gwerth.
Byddai cymwysterau procsi cydnabyddedig yn parhau i gael eu derbyn pan fo hynny wedi'i bennu mewn fframwaith.
Y bwriad yw darparu dull mwy cymesur a hyblyg gan barhau i gefnogi dysgwyr sydd angen datblygu Sgiliau Hanfodol.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y gofynion Sgiliau Hanfodol arfaethedig yn taro cydbwysedd priodol rhwng cynnal datblygiad sgiliau hanfodol a darparu hyblygrwydd i ddysgwyr a chyflogwyr?
Cwestiwn 6: sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.6.1(ii), 2.6.2(iii), 2.6.3
Amcan
Byddai'r Fanyleb ddrafft yn caniatáu i fframweithiau prentisiaethau gynnwys Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol lle mae'r rhain yn berthnasol i berfformiad effeithiol yn yr alwedigaeth, yn hytrach na gofyn amdanynt ym mhob achos.
Y bwriad yw sicrhau bod gofynion sgiliau digidol yn gymesur, yn berthnasol yn alwedigaethol ac yn ymatebol i anghenion gwahanol sectorau a galwedigaethau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y dull arfaethedig ar gyfer Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol yn darparu cydbwysedd priodol rhwng cynnal gallu digidol a chaniatáu hyblygrwydd ar gyfer gwahanol alwedigaethau a sectorau?
Cwestiwn 7: Sgiliau Hanfodol ac oedran y dysgwr
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
2.6.1 i 2.6.4
Amcan
Mae'r Fanyleb ddrafft yn nodi gofynion Sgiliau Hanfodol yn ôl lefel prentisiaeth, yn hytrach nag yn ôl oedran y dysgwyr.
Y bwriad yw sicrhau fframwaith cyson yn seiliedig ar ofynion galwedigaethol ac addysgol gan gydnabod y gall dysgwyr ddechrau prentisiaethau gyda gwahanol gyflawniadau a phrofiadau blaenorol.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl y dylid pennu gofynion Sgiliau Hanfodol yn ôl lefel prentisiaeth ac angen galwedigaethol, yn hytrach nag yn ôl oedran y dysgwr?
Cwestiwn 8: trefniadau trosiannol a gweithredu newid
Darpariaethau perthnasol Manyleb Brentisiaethau Cymru
1.7.3 i 1.7.4, 1.8.1 i 1.8.4
Amcan
Mae'r Fanyleb ddrafft yn nodi y caiff prentisiaid sydd eisoes wedi dechrau prentisiaeth Gymreig gymeradwy cyn i Fanyleb ddiwygiedig ddod i rym barhau i gwblhau'r brentisiaeth o dan y gofynion a oedd mewn grym ar y dyddiad ymrestru, yn amodol ar unrhyw drefniadau trosiannol a bennir.
Y bwriad yw darparu sefydlogrwydd i ddysgwyr a chyflogwyr gan ganiatáu i'r system brentisiaethau ymateb i ofynion a blaenoriaethau sy'n newid.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y dull arfaethedig ar gyfer trefniadau trosiannol a gweithredu newidiadau yn darparu cydbwysedd priodol rhwng gwella'r system a sefydlogrwydd i ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr presennol?
Cwestiwn 9: canllawiau drafft
Dogfen berthnasol
Canllawiau drafft ar Gymhwyso Manyleb Brentisiaethau Cymru
Amcan
Bwriad y Canllawiau drafft yw cefnogi dehongli a chymhwyso Manyleb Brentisiaethau Cymru yn gyson drwy ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar sut y dylid deall a chymhwyso'r gofynion yn ymarferol.
Cwestiwn
I ba raddau rydych chi'n meddwl bod y Canllawiau drafft yn darparu digon o eglurder i gefnogi datblygu, cymeradwyo, cyflwyno, adolygu a chynnal fframweithiau prentisiaethau?
Cwestiwn 10: cymwysterau procsi
Dogfennau perthnasol
Y Rhestr ddrafft o Gymwysterau Procsi Cydnabyddedig ar gyfer Sgiliau Hanfodol (Cymru)
Amcan
Bwriad y Rhestr Brocsi ddrafft yw darparu dull clir a chyson o gydnabod cymwysterau y gellir eu derbyn fel dull amgen o ddangos gofynion Sgiliau Hanfodol o fewn fframweithiau prentisiaethau.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi'n meddwl bod y Rhestr Brocsi ddrafft yn darparu sail briodol ar gyfer cydnabod tystiolaeth amgen o gyflawniad ar gyfer gofynion Sgiliau Hanfodol?
Cwestiwn 11: sylwadau eraill
Y darpariaethau perthnasol
Pob darpariaeth
Cwestiwn
A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y fersiwn ddrafft o Fanyleb Brentisiaethau Cymru, y Canllawiau drafft, y Rhestr ddrafft o Gymwysterau Procsi Cydnabyddedig ar gyfer Sgiliau Hanfodol (Cymru), neu unrhyw agwedd arall ar y cynigion?
Darparwch unrhyw sylwadau ar:
- effeithiolrwydd cyffredinol y cynigion
- ystyriaethau wrth ei roi ar waith
- meysydd lle gallai fod angen eglurhad pellach
- canlyniadau anfwriadol posibl
- unrhyw faterion nad ydym wedi ymdrin â nhw yn yr ymgynghoriad hwn
Lle bo'n bosibl, cyfeiriwch at adrannau neu rifau paragraffau penodol.
Cwestiwn 12: Asesiad Effaith Integredig drafft
Dogfennau berthnasol
Asesiad Effaith Integredig drafft
Cwestiwn
Ydych chi'n meddwl bod yr Asesiad Effaith Integredig drafft yn nodi'n gywir effeithiau tebygol y cynigion?
Nodwch unrhyw effeithiau nad ydynt wedi'u hystyried yn ddigonol yn eich barn chi, gan gynnwys effeithiau ar:
- dysgwyr
- cyflogwyr
- darparwyr
- pobl sydd â nodweddion gwarchodedig
- plant a phobl ifanc
- cymunedau Cymraeg eu hiaith
- pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig
- pobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol
- sectorau neu alwedigaethau penodol
Cwestiwn 13: cydraddoldeb ac effeithiau ehangach
Dogfen berthnasol
Y fersiynau drafft o Fanyleb Brentisiaethau Cymru, y Canllawiau, y Rhestr Brocsi a'r Asesiad Effaith Integredig
Cwestiwn
A oes unrhyw effeithiau ar grwpiau, cymunedau neu sectorau penodol y dylid eu hystyried ymhellach, neu unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i wella effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau andwyol?
Gallai hyn gynnwys effaith ar y canlynol:
- pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- plant a phobl ifanc
- cymunedau Cymraeg eu hiaith
- pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig
- pobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol
- cyflogwyr, darparwyr neu ddysgwyr mewn galwedigaethau neu sectorau penodol
- unrhyw grwpiau y gallai gael eu heffeithio yn eich barn chi
Rhowch resymau a thystiolaeth lle bo'n bosibl.