Iaith:

Mesurau i Gefnogi'r Broses o Bontio i Ofal Plant Nid-er-Elw

 
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y geiriad newydd arfaethedig ar gyfer y Cod Ymarfer Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Ymarfer ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae’r newidiadau yn cryfhau’r disgwyliadau ar draws trefniadau rhianta corfforaethol, mabwysiadu, maethu a gofal gan berthynas i wella eglurder, cysondeb a chymorth i blant a theuluoedd yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd ymgyngoriadau blaenorol ar y newidiadau polisi arfaethedig a daethant i ben ar 27 Hydref 2025.  Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i ddatblygu ar sail yr ymatebion a ddaeth i law a'r adborth gan randdeiliaid. 

 

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos tan 7 Ebrill 2026.  Mae'r cyfnod yn fyrrach er mwyn osgoi gorgyffwrdd â'r cyfnod cyn-etholiadol yng Nghymru ac mae'n adlewyrchu'r ffaith fod y newidiadau allweddol i'r Cod wedi'u hystyried o'r blaen drwy'r ymgyngoriadau 12 wythnos a gynhaliwyd rhwng 4 Awst 2025 a 27 Hydref 2025. 

Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.

Rwy'n deall y bydd unrhyw destun a roddaf yn y ffurflen hon yn cael ei gofnodi ac ar gael i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os nad wyf yn clicio ar y botwm "cyflwyno" ar y dudalen olaf.

Rwy'n deall hefyd mai dim ond ffurflenni a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy glicio ar y botwm "cyflwyno" fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu unrhyw destun sydd wedi'i gofnodi ar ffurflenni lle nad yw'r defnyddiwr wedi clicio ar y botwm "cyflwyno". *