Datblygu polisi ffonau symudol: canllawiau i ysgolion
Peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth bersonol (er enghraifft, enwau, cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn, cyfeiriadau cartref neu wybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion adnabyddadwy) yn eich ymateb. Rydym yn ceisio barn ar y canllawiau yn hytrach na gwybodaeth am bobl unigol. Os darperir gwybodaeth bersonol, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dileu neu ei golygu cyn dadansoddi neu gyhoeddi ymatebion.
Mae'n rhaid i chi gyflwyno eich ymateb er mwyn iddo gael ei ystyried.
Rwy'n deall y bydd unrhyw destun a roddaf yn y ffurflen hon yn cael ei gofnodi ac ar gael i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed os nad wyf yn clicio ar y botwm "cyflwyno" ar y dudalen olaf.
Rwy'n deall hefyd mai dim ond ffurflenni a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy glicio ar y botwm "cyflwyno" fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad.
Bydd Llywodraeth Cymru yn anwybyddu unrhyw destun sydd wedi'i gofnodi ar ffurflenni lle nad yw'r defnyddiwr wedi clicio ar y botwm "cyflwyno".
Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn darparu digon o wybodaeth i gefnogi eich lleoliad ac awdurdodau lleol i ddatblygu a chynnal polisi ffonau symudol effeithiol?
Os dewisoch ‘Anghytuno’, ‘Anghytuno’n gryf’ neu ‘Ddim yn gwybod’, nodwch yn fyr pa wybodaeth ychwanegol fyddai’n ddefnyddiol.
Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn glir ac yn hawdd eu deall?
Os dewisoch ‘Anghytuno’, ‘Anghytuno’n gryf’ neu ‘Ddim yn gwybod’, esboniwch yn fyr pa agweddau ar y canllawiau sy’n aneglur neu’n anodd eu deall.
Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn hawdd i’w defnyddio wrth ddatblygu a chynnal polisi ffonau symudol?
Os dewisoch ‘Anghytuno’, ‘Anghytuno’n gryf’ neu ‘Ddim yn gwybod’, esboniwch yn fyr beth fyddai’n gwneud y canllawiau yn haws i’w defnyddio.
Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn cwmpasu’r prif ystyriaethau ar gyfer lleoliadau ysgol ac awdurdodau lleol wrth ddatblygu a gweithredu polisi ffonau symudol (er enghraifft defnydd yn ystod y diwrnod ysgol, storio, eithriadau, cyfathrebu a gorfodi)?
Os dewisoch ‘Anghytuno’, ‘Anghytuno’n gryf’ neu ‘Ddim yn gwybod’, nodwch yn fyr unrhyw ystyriaethau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y canllawiau.
Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn darparu cymorth ymarferol i leoliadau ysgolion ac awdurdodau lleol wrth weithredu polisi ffonau symudol?
Os dewisoch ‘Anghytuno’, ‘Anghytuno’n gryf’ neu ‘Ddim yn gwybod’, nodwch yn fyr pa gymorth ychwanegol fyddai’n helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i gymhwyso’r canllawiau yn ymarferol.
Cwestiwn 6: Efallai y bydd angen i ysgolion a lleoliadau hefyd ystyried dyfeisiau digidol personol eraill, fel llechi, oriorau clyfar a sbectolau clyfar, wrth ddatblygu eu polisïau. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid cynnwys canllawiau ychwanegol ar y dyfeisiau hyn?
Cwestiwn 7: Ydych chi’n cytuno bod y canllawiau drafft ar ffonau symudol mewn ysgolion yn adlewyrchu’n ddigonol y ffyrdd y gellir defnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol at ddibenion addysgol, gweinyddol neu ddibenion eraill sy’n gysylltiedig â’r ysgol (er enghraifft cyrchu amserlenni, apiau addysgol neu systemau talu am brydau bwyd)?
Os dewisoch ‘Anghytuno’, ‘Anghytuno’n gryf’ neu ‘Ddim yn gwybod’, nodwch yn fyr pa wybodaeth ychwanegol y dylid ei chynnwys yn y canllawiau.
Cwestiwn 8: Oes gennych chi farn ynghylch a allai fod angen gweithredu pellach, gan gynnwys deddfwriaeth, i gefnogi nodau’r canllawiau? (Os oes, esboniwch eich ateb a, lle bo’n berthnasol, nodwch pa ffurf y dylai’r camau gweithredu hynny ei chymryd.)
Cwestiwn 9: A oes gennych unrhyw sylwadau pellach ar sut y gellid gwella’r canllawiau i helpu lleoliadau ysgolion ac awdurdodau lleol i ddatblygu, gweithredu a chynnal polisi ffonau symudol effeithiol? (Os oes, nodwch nhw isod.)