Iaith

Grant Larwm Mesurau Interim Cymru (GLMIC): ffurflen gais

Cyflwyniad

 

Ynglŷn â'r ffurflen hon

I wneud cais am gymorth gan Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC) ar gyfer larymau interim, llenwch a chyflwynwch y ffurflen hon.

Cyn llenwi’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen canllawiau i Ymgeiswyr Grant Larymau Mesur Interim Cymru (GLMIC).

Rydym hefyd yn gofyn rhai cwestiynau ychwanegol i'n helpu ni i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu perchnogion a phreswylwyr adeiladau ledled Cymru. 

Mae'r wybodaeth hon yn ategu dadansoddi, gwerthuso rhaglenni, a datblygu polisïau diogelwch adeiladau yn y dyfodol. Ni fydd atebion i'r cwestiynau hyn yn effeithio ar gymhwysedd neu ganlyniad asesiad eich cais. 

Tystiolaeth ategol

Rhaid cyflwyno tystiolaeth ategol fel rhan o'ch cais. Gall methu â darparu'r dystiolaeth ategol ofynnol oedi asesu’ch cais a’i gynnydd.

Pan fo angen gwybodaeth ychwanegol, dylid ei chyflwyno yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir.

Sylwch fod meysydd sydd wedi'u marcio â seren (*) yn orfodol.