AGIC - Hosbis Oedolion - Holiadur Staff

0%

1. Mae eich Barn yn Bwysig

 
Mae eich gwaith yn hanfodol i bobl Cymru. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fel arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru, sy'n gyfrifol am sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd o ansawdd da. Bydd eich profiad o weithio yn y lleoliadau hyn yn ein helpu i nodi arferion da a gwelliannau lle y bo angen.

Ynglŷn â'r arolwg

Mae'r holiadur yn ddienw, felly ni fydd neb yn gwybod pwy ydych. Mae cwestiynau'n ddewisol oni nodir yn wahanol.

Defnyddir y canlyniadau cyffredinol ochr yn ochr ag unrhyw dystiolaeth a gesglir drwy ein gwaith maes fel rhan o'n canfyddiadau cyffredinol.

Dweud eich dweud i gadw pobl yn ddiogel

Mae dweud eich dweud yn elfen hanfodol o ddiwylliant diogel a dylai fod yn fater o drefn i bawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ni waeth beth fo'u rôl. Mae AGIC yn chwarae rôl arbennig i bobl sy'n ystyried codi pryderon am gamwedd ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Byddwn yn gwrando ar eich pryder ac yn esbonio sut y gallwn helpu. Mae'n bosibl y bydd angen i ni drosglwyddo'r wybodaeth rydych yn ei darparu i sefydliad neu gorff rheoleiddio arall, os yw'n fwy priodol i'r sefydliad neu'r corff rheoleiddio hwnnw ymchwilio i'ch pryder.

Nod yr holiadur hwn yw eich helpu i rannu eich barn a'ch profiadau. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo bod angen i chi drafod pryder penodol, neu bwnc a gafodd effaith uniongyrchol ar ddiogelwch claf neu aelod o staff, dylech ei godi'n uniongyrchol drwy ddefnyddio’r ddolen isod: https://agic.org.uk/codi-llais-i-gadw-pobl-yn-ddiogel

Diolch am eich help.