Codi Pryder gan Gyflenwr ynghylch Caffaeliad Penodol yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

0%
 
Croeso i Uned Adolygu Caffael Cymru (WPRU) – Y Gwasanaeth Adborth Caffael

 

Cyfarwyddyd ar gyfer Cyflwyno:

Mae'r ffurflen hon i gyflenwyr godi pryder ynghylch caffael sector cyhoeddus penodol a wnaed gan awdurdod Cymreig datganoledig (“awdurdod contractio”). Mae'n rhaid bod y mater wedi digwydd yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf a gall gynnwys materion sy'n ymwneud ag arferion caffael neu reoli contractau.

Mae rhagor o wybodaeth am gwmpas y Gwasanaeth Adborth Caffael ar gael yn Uned Adolygu Caffael Cymru.

Noder cyn dechrau ymholiad gyda'r Gwasanaeth Adborth Caffael (PFS), rydym yn argymell trafod unrhyw bryderon ynghylch caffael neu gontract gyda'r awdurdod contractio cysylltiedig yn gyntaf.

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r hysbysiad llawn ar gael yma: https://www.llyw.cymru/uned-adolygu-caffael-cymru-gwasanaethau-adborth-hysbysiad-preifatrwydd

1. Darllenwch gyfyngiadau'r gwasanaeth a chytunwch â'r datganiadau:

Er mwyn defnyddio'r Gwasanaeth Adborth Caffael yn briodol ac yn effeithiol, rhaid i gyflwyniadau fodloni meini prawf cymhwysedd penodol: 

  • Rhaid i'r mater ymwneud â gweithgareddau caffael a gyflawnir gan awdurdod Cymreig datganoledig fel y'i diffinnir yn Neddf Caffael 2023 a'r canllawiau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o gyrff y sector cyhoeddus gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a chyrff iechyd.
  • Rhaid i'r mater neu'r pryder ymwneud â chaffael sy'n dod o dan gyfundrefn Deddf Caffael 2023 a rhaid iddo fod wedi codi o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.
  • Ni ddylai'r ymarfer caffael fod yn ystod y cyfnod segur.
  • Ni ddylai'r mater fod yn ymwneud â materion talu'n hwyr neu ddiffyg talu.
  • Ni ddylai'r mater fod yn destun achos ffurfiol na chyfreithiol, gan gynnwys cyhoeddi llythyr cyn-gweithredu. Rhaid i gyflenwyr hysbysu'r Gwasanaeth Adborth Caffael ar unwaith os cychwynnir achos cyfreithiol.
  • Ni ddylai'r mater fod yn destun unrhyw ymchwiliad sydd wedi’i gynllunio, sy’n digwydd ar y pryd neu sydd wedi'i gwblhau gan gorff sydd â phwerau statudol i ymchwilio i gwynion, fel, ombwdsmon neu awdurdod tebyg.
  • Ni fydd y Gwasanaeth Adborth Caffael yn ymateb i geisiadau am wybodaeth am gaffaeliadau, contractau neu fframweithiau penodol, fel gofyn i bwy mae contract wedi'i ddyfarnu. Dylid cyfeirio'r rhain at yr awdurdod contractio perthnasol.
  • Ni fydd cyflwyniadau a ystyrir yn sarhaus, yn fygythiol, yn faleisus, neu'n flinderus yn cael eu hymchwilio.

Os nad yw eich cyflwyniad yn bodloni'r amodau hyn, efallai y cewch eich ailgyfeirio at wasanaeth neu sefydliad mwy priodol (e.e. cyrff chwythu'r chwiban neu wasanaeth cymorth Busnes Cymru).

Rwy'n cadarnhau nad yw unrhyw faterion rwy'n eu disgrifio yn destun unrhyw achos cyfreithiol neu ymchwiliad arfaethedig neu gychwynnol a byddaf yn rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Adborth Caffael (PFS) ar unwaith os cychwynnir achos cyfreithiol neu ymchwiliad ar wahân.

Rwy'n cydnabod os yw'r mater a ddisgrifir yn destun ymchwiliad gan y PFS, na ellir dibynnu ar unrhyw ganlyniad ysgrifenedig fel cyngor cyfreithiol neu dystiolaeth.

Rwy'n cydnabod na fydd cyflwyno'r ffurflen hon yn her ffurfiol i broses gaffael. *