Archwiliad Gwelliant - Arolwg Rhanddeiliaid - 2026/27

CIW logo


0%
 
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wrthi'n arolygu gwasanaethau cymdeithasol yn yr awdurdod lleol hwn. Rydym yn adolygu pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau statudol o ran cadw pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt, yn ddiogel a hyrwyddo eu llesiant.

 

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech gwblhau'r arolwg byr hwn mewn perthynas ag adolygiad AGC o'r awdurdod lleol hwn.

 

Dylai'r arolwg gymryd tua 10 i 15 munud i'w gwblhau. Mae adrannau'r arolwg hwn yn unol ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.


Mae eich sylwadau unigol yn gyfrinachol, ond mae'n bosibl y cânt eu defnyddio i roi adborth a dyfyniadau i'r awdurdod lleol. Os byddai'n well gennych siarad â ni am eich adborth, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126 neu AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru

 

Bydd gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw faterion diogelu yn cael ei datgelu i'r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag y risg o niwed a/neu gamdriniaeth.