Mae'r arolwg hwn yn rhan o ymgyrch '
Mae Casineb yn Brifo Cymru' Llywodraeth Cymru. Rydym eisiau deall beth mae pobl ledled Cymru yn ei wybod am droseddau casineb, sut maent yn teimlo am eu riportio, a beth sy'n atal pobl rhag gwneud hynny neu gael cefnogaeth, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi profi trosedd gasineb eich hun nac wedi bod yn dyst i drosedd gasineb.
Mae'r arolwg yn anhysbys. Nid oes raid ichi ateb pob cwestiwn. Ar y diwedd, gallwch ddewis a hoffech i ni gysylltu â chi er mwyn cymryd rhan mewn ymchwil pellach.
Os bydd unrhyw un o'r cwestiynau yn ymdrin â rhywbeth rydych angen cymorth ag ef, gallwch gysylltu â Chanolfan Cymorth Casineb Cymru (sy'n cael ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr) yn rhad ac am ddim ar 0300 30 31 982, neu'r heddlu ar 101 (999 mewn argyfwng).
Bydd yn cymryd tua 5-10 munud i lenwi'r arolwg.
Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â’r gyfraith a’r rheoliadau preifatrwydd. Os oes gennych gwestiynau neu os byddwch angen rhagor o gymorth, cysylltwch â ni drwy swyddogdiogeludata@llyw.cymru.