Ffurflen lanlwytho newyddion Hwb

0%

1. Meini prawf erthygl newyddion Hwb
Tudalen 1 o 5

 

Nid yw cyflwyno'r ffurflen hon yn gwarantu cyhoeddi. Bydd y tîm golygyddol cyfathrebu, gan weithio gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, yn penderfynu a ddylid cyhoeddi eich erthygl. Gellir ei olygu hefyd i fodloni canllaw arddull y tŷ. Bydd y tîm yn cysylltu â chi os nad yw'ch erthygl yn cael ei chyhoeddi. Diolch am eich dealltwriaeth.

Ffocws ar addysg
Dylai unrhyw stori newyddion fod yn berthnasol i ymarferwyr addysg neu ddysgwyr yng Nghymru (er enghraifft nid yw cais i hyrwyddo ‘arolwg sy’n gysylltiedig ag iechyd’ heb unrhyw berthnasedd uniongyrchol i addysgu a dysgu yn addas. Fodd bynnag, os oes cynllun gwers wedi’i ddatblygu o amgylch pwnc yr arolwg sy’n cysylltu â’r cwricwlwm, mae hynny wedyn yn berthnasol)

Anfasnachol o ran natur
Ni ddylai unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd roi mantais gystadleuol annheg i’r cwmni sy’n hysbysebu (er enghraifft prifysgol sy’n hyrwyddo ei chyrsiau)

Cymru gyfan
Dylai’r digwyddiad/gystadleuaeth fod yn un y mae modd i bob dysgwr neu athro yng Nghymru ei f/mynychu (er enghraifft nid cystadleuaeth sy’n canolbwyntio ar dref, dinas neu awdurdod lleol penodol)

Iaith
Dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu cynrychioli’n briodol (er enghraifft os yw cystadleuaeth wedi’i lleoli yn Lloegr, mae modd i ni ei hysbysebu yr un fath ond rhaid gwneud yn glir mai drwy gyfrwng y Saesneg y dylid cystadlu).

Meini prawf newyddion Hwb *

 

1. Ydi'r erthygl newyddion hon yn gysylltiedig ag adnodd Hwb? *