Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Therapi Electrogynhyrfol (ECT) Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yng Nghymru

0%

1. Yr adolygiad
Tudalen 1 o 2

 
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu ac yn rheoleiddio gwasanaethau'r GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol i nodi meysydd o arfer da a meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau, gan helpu i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd i bobl yng Nghymru. 

Yr adolygiad

Mae AGIC yn cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau Therapi Electrogynhyrfol (ECT) ledled Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr adolygiad yma: Pa mor effeithiol y caiff gwasanaethau ECT eu harwain, eu llywodraethu a'u cyflwyno ledled Cymru i ddarparu gofal diogel, cyson, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn? | Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Fel rhan o'r adolygiad hwn, hoffem glywed gan gleifion, cyn-gleifion, gofalwyr, aelodau o deuluoedd, eiriolwyr ac aelodau eraill o'r cyhoedd sydd wedi cael profiad o wasanaethau ECT yng Nghymru. 

Rhannwch gymaint neu gyn lleied ag yr ydych yn teimlo'n gyfforddus yn ei rannu am eich profiad. Gallai hyn gynnwys y wybodaeth, y gofal a'r cymorth a gawsoch, i ba raddau roeddech yn teimlo eich bod yn cael eich cynnwys mewn penderfyniadau am driniaeth, beth weithiodd yn dda, ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer sut y gellid gwella gwasanaethau. 

Os byddwch yn dewis trafod dros y ffôn neu drwy Microsoft Teams, bydd aelod o dîm yr adolygiad yn cysylltu â chi i drefnu sgwrs. Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio nifer bach o gwestiynau i helpu i lywio'r drafodaeth, ond dim ond yr hyn rydych yn teimlo'n gyfforddus yn ei drafod y bydd angen i chi ei rannu. 

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall y profiad o drefnu gwasanaethau ECT yng Nghymru ac o dderbyn y gwasanaethau hynny, gan gynnwys beth sy'n gweithio'n dda a ble y gall fod angen gwneud gwelliannau. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym yn helpu i lywio canfyddiadau ac argymhellion cenedlaethol AGIC.

Noder na allwn ymchwilio i gwynion unigol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am broses bryderon AGIC yma: Darparu adborth am wasanaeth gofal iechyd | Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ffynonellau Cymorth

Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd myfyrio ar brofiadau gofal iechyd weithiau. Dim ond yn y ffordd sy'n teimlo'n iawn i chi y dylech gymryd rhan.

Os yw cwblhau'r ffurflen hon yn achosi gofid neu'n codi pryderon, mae'n bosibl yr hoffech ofyn am gymorth gan eich tîm gofal iechyd, eich meddyg teulu, aelod o'r teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddo, neu sefydliad eiriolaeth neu gymorth.

GIG 111 #2 

Y Samariaid: Ffoniwch 116 123

Mind Cymru: https://www.mind.org.uk/need-urgent-help/using-this-tool/ 

 

Os hoffech siarad ag aelod o dîm yr adolygiad, darparu cyflwyniad ysgrifenedig, neu rannu eich barn mewn ffordd arall, cwblhewch y ffurflen isod.