Caffael Cymdeithasol Gyfrifol: Ffurflen Hysbysu Pryder
Cyfarwyddyd ar gyfer Cyflwyno:
Dylai rhanddeiliaid ddefnyddio'r ffurflen hon i godi pryder ynghylch caffael cyhoeddus a gynhaliwyd gan Awdurdod Contractio sy'n dod o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Atodlen 1).
Dylech ei ddefnyddio i roi gwybod am bryderon am ymarfer caffael penodol sy'n ymwneud â dyletswyddau Caffael Cymdeithasol Gyfrifol y Ddeddf.
Nodyn pwysig i gyflenwyr: Os yw'ch pryder yn ymwneud yn benodol â chaffael o dan Ddeddf Caffael 2023, cysylltwch â 'Gwasanaeth Adborth Caffael' Uned Adolygu Caffael Cymru. Y Gwasanaeth Adborth Caffael yw'r unig bwynt cyswllt i gyflenwyr sy'n dymuno:
- Codi pryderon am ymarfer caffael penodol y maent wedi bod yn rhan ohono, neu y maent yn bwriadu cymryd rhan ynddo.
- Adrodd am bryderon am gydymffurfiaeth awdurdod contractio â Deddf Caffael 2023 mewn perthynas ag ymarfer caffael penodol.
- Adrodd am bryderon ynghylch cydymffurfio â rheolau neu delerau contract neu fframwaith penodol.
Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r hysbysiad llawn ar gael yma: https://www.llyw.cymru/uned-adolygu-caffael-cymru-gwasanaethau-adborth-hysbysiad-preifatrwydd