Cais Ysgol Aeaf 2027

0%

Mae rhaglen breswyl 4 diwrnod yr Ysgol Aeaf eleni, a gynhelir rhwng 2 - 5 Chwefror 2027 yn Nant Gwrtheyrn, wedi'i chynllunio i ddiwallu anghenion datblygu allweddol uwch arweinwyr Cymru, yn benodol y rhai sy'n gweithio yn nwy haen uchaf sefydliadau'r sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol.

Bydd Ysgol Aeaf 2027 yn rhoi cyfle i chi herio'ch arweinyddiaeth ac ehangu eich effaith. Gan weithio ar y cyd â Chwmni Cynefin, rydym wedi dylunio profiad arweinyddiaeth systemau sy'n canolbwyntio ar y dyfodol i ddarparu ffyrdd i gefnogi arweinwyr wrth iddyn nhw geisio mynd i'r afael â'u heriau anoddaf.

Dychmygwch allu dylanwadu ar y system yn y fath fodd fel bod yr heriau rydych chi'n eu hwynebu o fewn eich sefydliad, sy'n aml yn cael eu rhannu gan arweinwyr mewn sectorau eraill, yn dechrau cyd-fynd mewn ffordd sy'n eich galluogi i ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda'ch gilydd, gan bwysleisio pwysigrwydd meithrin cysylltiadau â'ch cyfoedion.

Os hoffech chi fod yn rhan o'r gymuned ddysgu ddeinamig hon sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a chydweithio y tu hwnt i'r Ysgol Aeaf, gan edrych ar sut y gallwch ymgorffori cydweithredu yn nyfodol eich sefydliad, cwblhewch y ffurflen gais erbyn 7 Rhagfyr 2026.

I gael rhagor o wybodaeth, bydd tudalennau gwe’r Ysgol Aeaf yn mynd yn fyw ddydd Gwener 13 Tachwedd 2026.