Arolwg i’r holl rieni a gofalwyr sy’n defnyddio gofal plant yng Nghymru - Ceredigion

0%
 
Mae Is-adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisiau deall anghenion gofal plant teuluoedd Cymru sydd â phlant rhwng 0 ac 17 oed.

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni a hoffem wybod mwy am eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau cofrestredig (h.y. gwasanaethau sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) a gofal plant heb ei gofrestru (mae nanis, au pairs a rhai clybiau gweithgaredd/chwaraeon yn dod i’r categori hwn, er enghraifft). Bydd eich barn yn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru ac yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau gofal plant. Er hynny, ni all awdurdodau lleol warantu y bydd modd bodloni pob cais am ddarpariaeth gofal plant.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. 

Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol (e.e. enwau, neu ddisgrifiadau o blant, a allai ei gwneud yn bosibl eu hadnabod).