‌
Neidio i’r prif gynnwys
Adolygiad Cenedlaethol o'r Broses o Roi Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar Waith yn Effeithiol – Adran 5

1. Cyflwyniad

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi yn ymgymryd ag adolygiad cenedlaethol o'r ffordd y rhoddir Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru diwygiedig ar waith. Mae'r adolygiad yn canolbwyntio'n benodol ar ba mor dda y mae'r gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas ag ymarferwyr a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth gyda phlant. 

Mae'r arolwg hwn yn ceisio eich barn ynghylch pa mor effeithiol y mae partneriaid diogelu yn cydweithio i sicrhau bod honiadau/pryderon sy'n ymwneud ag ymarferwyr a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth gyda phlant yn cael eu rheoli'n ddiogel, yn deg, yn gyson ac yn gyfreithlon. 

Mae Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru yn disgrifio sut y dylid ymdrin â honiadau yn ymwneud â diogelu a wneir yn erbyn ymarferwyr a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth ledled Cymru.  Maent yn berthnasol i unrhyw unigolyn – boed yn cael ei dalu ai peidio, yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig – y mae ei rôl yn golygu ei fod yn dod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy’n wynebu risg, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae hefyd yn cynnwys unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant neu oedolion y mae angen gofal a chymorth arnynt, ac y mae eu cyflogaeth neu eu gwaith gwirfoddol yn golygu eu bod yn dod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy'n wynebu risg. 

Bydd eich ymatebion yn helpu i nodi cryfderau, amrywiadau, rhwystrau a meysydd i'w gwella ledled Cymru. Atebwch yn seiliedig ar eich rôl, eich profiad a'ch maes gwaith eich hun. Os oes gennych fwy nag un rôl, cwblhewch yr arolwg unwaith ar gyfer pob rôl wahanol.

Os ydych yn gweithio ar draws mwy nag un awdurdod lleol neu ranbarth, nodwch pa awdurdod(au) lleol rydych yn cyfeirio ato/atynt yn eich ymatebion testun rhydd. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol na manylion a allai olygu bod modd adnabod unigolion sy'n gysylltiedig ag achosion penodol.

Atebwch bob cwestiwn yn seiliedig ar eich profiadau ers mis Gorffennaf 2026 lle bynnag y bo modd. Os na ellir cyfyngu cwestiwn yn rhesymol i'r cyfnod hwn, atebwch mor gywir ag y gallwch a nodwch yn y blwch testun rhydd fod y cyfnod amser yn wahanol. 

Rydym yn cydnabod y gallai hwn fod yn bwnc sensitif neu heriol i rai pobl sy'n cwblhau'r arolwg hwn. Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich ymateb i'r arolwg neu os oes gennych unrhyw bryderon am y trefniadau diogelu i ymarferwyr a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth y byddai'n fuddiol eu trafod â'n tîm arolygu, gallwch gysylltu ag AGC drwy fynd i'n gwefan: https://www.arolygiaethgofal.cymru/darparu-adborth-ar-wasanaethau-gofal

Cynnydd
0%