Dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol: Holiadur
Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn ar ei dogfen fframwaith gyfredol ar y Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Lles Emosiynol a Meddyliol a pha mor effeithiol yw hi wrth gefnogi ysgolion o ran gweithredu egwyddorion y fframwaith.
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall pa mor ddefnyddiol yw'r ddogfen gyfredol yn ymarferol, gan nodi meysydd lle gellid ei chryfhau. Rydym hefyd yn gofyn am eich barn ar ein nodau arfaethedig ar gyfer adnewyddu'r fframwaith.
Y nodau hyn yw:
· Adlewyrchu'r polisi, y ddeddfwriaeth a'r dystiolaeth gyfredol, gan sicrhau ei bod yn glir i bawb mewn ysgolion beth y mae dull ysgol gyfan o ymdrin â lles yn ei olygu, a'r cymorth sydd ar gael.
· Cryfhau cysylltiadau â fframweithiau, canllawiau a mentrau traws-lywodraethol cysylltiedig, gan ddangos yn glir sut maent yn gweithio gyda'i gilydd fel rhan o ddull system gyfan.
· Cefnogi'r gweithredu trwy ganllawiau ac adnoddau ymarferol, gan fod yn hyblyg, heb fynnu dilyn camau penodol, a chan alluogi ysgolion i ymateb i'w cyd-destun a'u hanghenion eu hunain.
Bydd eich cyfraniad yn helpu i sicrhau bod unrhyw fersiwn newydd o'r ddogfen fframwaith yn berthnasol, ymarferol ac effeithiol wrth gefnogi lles dysgwyr, staff, a chymuned ehangach yr ysgol. Diolch am gyfrannu.